Ieuan Wyn Jones - disgwyl cyhoeddiad heddiw
Mae disgwyl i Aelod Cynulliad Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, gyhoeddi heddiw ei fod yn rhoi’r gorau i’w swydd.

A dyw e ddim yn bwriadu aros tan yr etholiad nesa’ yn 2016, ac felly fe fydd yn rhaid cynnal is-etholiad yn ei etholaeth.

Mae disgwyl iddo wneud y cyhoeddiad swyddogol heddiw, gan ddweud ei fod yn troi ei gefn ar y byd gwleidyddol. 

Fe all y cyhoeddiad dirybudd wneud pethau’n anodd i bleidiau eraill ym Môn, yn ogystal ag i rai yn ei blaid ei hun.

Mewn etholaeth sydd ag Aelod Seneddol Llafur, gallai peidio aros tan 2016, a galw is-etholiad yn fuan ar ôl etholiadau Cyngor eitha’ llwyddiannus i Blaid Cymru, fod yn dactegol glyfar.

Ar y llaw arall, mae gwneud y cyhoeddiad sy’n mynd i orfodi is-etholiad cyn bod darpar-ymgeisydd Arfon wedi’i dewis, fod yr amseru gwaetha’ i un o’r rhai yn y ras honno.

Hanes

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ynys Môn yn 1987, a bu yn y swydd honno tan 2001.

Roedd yna ddwy flynedd rhwng 1999 a 2001 pan fu’n Aelod Seneddol ac yn Aelod Cynulliad yr ardal yn dilyn sefydlu’r Cynulliad.

Bu’n gadeirydd Plaid Cymru rhwng 1980 a 1982 ac eto rhwng 1990 a 1992, cyn dod yn  arweinydd rhwng 2000 a 2012, ac yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru yn y Glymblaid gyda’r Blaid Lafur rhwng 2007 a 2011.

Teyrngedau

Ar wefan gymdeithasol Trydar, mae nifer o wleidyddion eisoes wedi talu teyrnged iddo.

“Diolch yn fawr iawn am bopeth,” oedd sylw ei olynydd yn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Dywedodd Aelod Cynulliad Gorllewin a Chanolbarth Cymru y Democratiaid Rhyddfrydol, William Powell, y byddai’n “gweld eisiau ei ddoethineb a’i synnwyr digrifwch” yn y Senedd.

Ac, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin, Jonathan Edwards, mae lle Ieuan Wyn Jones yn y llyfrau hanes “yn ddiogel”.