Protest yn Sgwâr Taksim, Istanbul
Fe fu’r heddlu’n cau ffyrdd ac yn saethau nwy ddagrau a dŵr at brotestwyr yn Sgwâr Taksim yn Istanbul ddoe mewn ymgais arall i ddod â phrotestiadau cenedlaethol i ben.

Er bod protestwyr wedi cael eu symud oddi yno nos Sadwrn, fe ymgasglodd criwiau unwaith eto ddoe, ychydig filltiroedd o’r lle roedd Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan yn annerch cynulleidfa.

Bu’r protestwyr yn y sgwâr am 18 niwrnod cyn iddyn nhw gael eu symud nos Sadwrn.

Ond yn ogystal â Sgwâr Taksim, fe fu rhagor o brotestiadau ar strydoedd Istanbul, Ankara ac Adana hefyd.

Mae pump o bobol wedi cael eu lladd yn y protestiadau, ac mae mwy na 5,000 wedi cael eu hanafu.

Pryder y Prif Weinidog

Mae Prif Weinidog Twrci yn dweud mai ymgais i ddad-sefydlogi ei lywodraeth yw’r protestiadau.

Mae ei feirniaid wedi’i gyhuddo o redeg y wlad mewn ffordd unbennaethol ac o geisio gorfodi ei gredoau Mwslemaidd ceidwadol ar ei bobol.

Bu’n rhaid iddo amddiffyn ei benderfyniad dros y penwythnos i anfon yr heddlu i ddod â’r protestiadau i ben.

“Fe wnes i fy nyletswydd fel Prif Weinidog,” meddai. ““Fel arall, fyddai dim diben i mi fod yn y swydd.”

Mae undebau wedi galw am gynnal streic undydd er mwyn cefnogi’r protestwyr.