Protestio y llynedd yn India, wedi treisio menyw ar fws
Mae’r heddlu yn India wedi arestio tri dyn ar amheuaeth o dreisio menyw o’r Unol Daleithiau yn nhref ogleddol Manali.

Roedd y fenyw 30 oed yn bodio am lifft yn ôl i’w gwesty nos Lun pan mae’n honni i dri dyn ei gyrru i ardal ddiarffordd a’i threisio.

Cafodd tri dyn yn eu hugeiniau eu harestio ger Manali, ym mhen gogleddol Dyffryn Kullu yn nhalaith Himachal Pradesh.

Pryder am achosion

Mae’r gofid am y nifer o ymosodiadau rhywiol ar ferched yn India wedi cynyddu yn dilyn marwolaeth dynes ar fws yn New Delhi fis Rhagfyr y llynedd, wedi iddi gael ei threisio gan grŵp o ddynion.

Ym mis Mawrth eleni arestiwyd chwe dyn am dreisio menyw o’r Swisdir. Ac mewn digwyddiad arall, fe neidiodd menyw o wledydd Prydain allan trwy ffenestr lloft ei gwesty gan iddi ofni bod rheolwr y sefydliad am ymosod arni.

O ganlyniad i hyn, mae Llywodraeth India wedi pasio deddf yn cynyddu hyd carchariad ar gyfer pob treisiwr. Hefyd, mae stelcio, ymosodiadau asid a phrynu a gwerthu merched yn anghyfreithlon.