Fe allai morgi trwynfain anferth a gafodd ei ddal oddi ar arfordir Califfornia yr wythnos hon, dorri pob record.

Ond mae yna rai’n dweud y dylai fod wedi cael ei ryddhau’n ôl i’r môr, gan fod y math yma mor brin ledled y byd.

Fe ddaliwyd y siarc 1,323 pwys gan Jason Johnston ddydd Llun yr wythnos hon, wedi ‘brwydr’ a barodd dros ddwyawr a hanner.

“Rwy’ i wedi hela llewod ac eirth brown,” meddai, “ond sa’ i erioed wedi profi dim byd fel hyn. Roedd e’n teimlo fel pe bai gen i dryc diesel yn pwyso tunnell ar ben arall fy ngwialen bysgota!”

Record

Y morgi trwynfain mwya’ i gael ei ddal cyn hyn oedd yn y flwyddyn 2001, yn y dyfroedd oddi ar arfordir talaith Massachusetts. Dim ond 23 o bysgod, erioed, sydd wedi pwyso dros 1,300 pwys.

Y siarc mwya’ erioed a ddaliwyd oedd un mawr gwyn, yn pwyso 2,664 pwys. Roedd hynny yn Awstralia yn y flwyddyn 1959.