Mae gwyddonydd sydd wedi ei ddal yn gaeth yn China am bron i bum mlynedd, wedi cael ei ryddhau.

Fe gyrhaeddodd Dr Hu Zhicheng Faes Awyr Rhyngwladol Los Angeles nos Lun, ar ôl taith hir gartre’ o China.

Bum mlynedd yn ôl, roedd Hu wedi mynd i ffraeo gydag un o’i gystadleuwyr. Ond mae newydd gael ei ryddhau gan China ychydig ddyddiau cyn i uwch-gynhadledd gael ei chynnal heddiw rhwng yr Arlywydd Barack Obama a’r arweinydd Chineaidd, Xi Jinping.

Fe ddigwyddodd pethau’n gyflym iawn. Fe ddaeth galwad ffôn i deulu Hu ddydd Llun, yn dweud ei fod ar ei ffordd gartref ar awyren.