Mae dau fom car wedi ffrwydro mewn ardaloedd Shiaidd ym mhrifddinas Irac gan ladd o leiaf 12 ac anafu 30.

Fe wnaeth y bom cyntaf ffrwydro yn ninas Sadr. Roedd plentyn 7 mlwydd oed ymhlith y 9 fu farw a chafodd 16 o bobl eu hanafu.

Fe ffrwydrodd yr ail fom ger arosfan tacsi yn Kamaliya gan ladd tri ac anafu 14.

Mae’r ymosodiad yn dilyn rhagor o fomiau a ffrwydrodd ddoe mewn ardaloedd Shiaidd gan ladd 33 o bobl.

Mae’r cynnydd sydyn mewn trais yn dod yng nghanol tensiynau cynyddol rhwng llywodraeth Shiaidd y wlad a’r lleiafrif Swnni. Fe wnaeth ymgyrch waedlyd y llywodraeth yn erbyn milwriaethwyr fis diwethaf sbarduno’r tensiwn.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau hyd yn hyn ond mae’n debyg ei fod yn nodweddiadol o ymosodiadau eraill gan gangen Irac o al Qaida.