Mae artist coluro Michael Jackson wedi dweud bod ganddi bryderon am gyflwr ei iechyd cyn iddo farw.

Dywed Karen Faye, fu’n gweithio gyda’r canwr am 27 o flynyddoedd, ei bod hi wedi clywed hyrwyddwr cerddoriaeth yn mynnu bod Jackson yn ymarfer pan oedd ei iechyd yn fregus.

Roedd hi’n pryderu y byddai’n marw pe bai’n ei wthio’i hun i ymarfer ar gyfer ei daith ‘This Is It’.

Dywedodd wrth lys yn Los Angeles ei bod hi wedi clywed sgwrs ffôn rhwng yr hyrwyddwr Paul Gongaware o gwmni AEG ac un o gynorthwywyr Michael Jackson, pan fynnodd Gongaware fod y canwr yn dod allan o’i ystafell ymolchi i baratoi i ymarfer.

Dywedodd Karen Faye fod Gongaware yn swnio’n “grac ac yn eithaf despret”.

Brenin Pop mewn poen

Daw’r honiadau yng nghanol achos llys gafodd ei ddwyn gan fam Michael Jackson yn erbyn cwmni AEG Live.

Mae Katherine Jackson wedi cyhuddo’r cwmni o fethu ag ymchwilio i weithredoedd Conrad Murray, y meddyg a gafwyd yn euog o ddynladdiad ei mab.

Mae hi hefyd yn dadlau bod y cwmni wedi methu ag ymateb yn briodol i bryderon am iechyd ei mab.

Dywed AEG nad oedden nhw’n gyfrifol mewn unrhyw ffordd am farwolaeth y canwr.

Mae’r llys wedi gweld negeseuon gan gefnogwyr y canwr oedd wedi mynegi pryder am ei iechyd ar ôl ei weld e’n perfformio.

Dywedodd Karen Faye wrth y llys fod y canwr yn aml mewn poen a’i fod yn dod yn fwy dibynnol ar gymorth meddygon.

Mae’n honni bod y ddibyniaeth wedi dechrau ar ôl iddo gael ei gyhuddo am y tro cyntaf o gamdrin plant.