Mae dwy ferch wedi marw yn Tsieina ar ôl bwyta iogwrt wedi’i wenwyno – roedd wedi cael ei adael tu allan i’w hysgol yn nhalaith Hebei.

Yn ôl adroddiadau, roedd yr iogwrt wedi ei adael yno gan rywun oedd yn gweithredu ar ran prifathro ysgol gyfagos.

Mae’r heddlu’n credu bod y digwyddiad wedi cael ei ysgogi gan gystadleuaeth rhwng disgyblion y ddwy ysgol.

Dywedodd Asiantaeth Newyddion Xinhua bod y prifathro benywaidd wedi cyfaddef chwistrellu’r iogwrt gyda gwenwyn llygod mawr ac wedi gofyn i ddyn eu gosod gyda llyfrau ger yr ysgol.

Daeth nain y merched o hyd i’r llyfrau a’r iogwrt a mynd a nhw adref gyda hi. Cafodd y plant eu taro’n wael ar ôl bwyta’r iogwrt a bu farw’r ddwy yn ddiweddarach.