Roedd y gwasanaethau cudd yn yr Unol Daleithiau yn gwybod am fam y ddau frawd oedd yn gyfrifol am fomiau Boston, ac wedi rhoi ei henw ar gofrestr o bobol yr oedden nhw’n cadw llygad arnyn nhw flwyddyn a hanner yn ôl.

Ond mae’r fam, Zubeidat Tsarnaeva, yn dweud mai “celwyddau a rhagrith” America sy’n gyfrifol am yr honiadau y gallai hi fod yn terfysgwr.

Roedd y CIA wedi gofyn i’r wraig a’i mab hynaf – sydd bellach wedi marw, yn dilyn brwydr gyda’r heddlu ar ôl bomio Boston – gael ei rhoi ar y gofrestr terfysgwyr yn hydref 2011.

Roedd hynny wedi i lywodraeth Rwsia gysylltu gyda nhw, yn poeni y gallai hi a’i mab fod yn eithafwyr crefyddol.

Yn y cyfamser, mae’r brawd iau, Dzhohkar Tsarnaev, wedi cael ei symud i ganolfan feddygol carchar neithiwr. Bu farw ei frawd, Tamerlan Tsarnaev, 26, ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.