Safle'r ffrwydradau yn Boston
Fe fydd yr Arlywydd Barack Obama yn teithio i Boston heddiw ar gyfer gwasanaeth i gofio’r tri a fu farw a’r 170 gafodd eu hanafu mewn dau ffrwydrad yn ystod Marathon Boston ddydd Llun.
Dywedodd Barack Obama yn y Tŷ Gwyn neithiwr bod yr ymosodiad yn cael ei drin fel “gweithred derfysgol.”
Mae’r FBI wedi dod o hyd i weddillion bag du lle y credir roedd y bomiau wedi eu cuddio, ac maen nhw wedi datgelu bod y ddau fom yn cynnwys hoelion a pheli metel.
Yn y cyfamser mae tad bachgen 8 oed gafodd ei ladd yn y ffrwydradau wedi bod yn son am ei dristwch.
Roedd Martin Richard yn un o dri o bobl gafodd eu lladd yn y ffrwydradau ddydd Llun wrth iddo wylio’r ras gyda’i deulu.
Yn ogystal â lladd Martin, roedd ei chwaer Jane wedi colli ei choes yn y ffrwydrad a chafodd ei fam, Denise, 43, anafiadau difrifol i’w hymennydd.
Mewn datganiad mae tad Martin, Bill Richard wedi gofyn i bobl weddïo am ei deulu a chofio Martin.
Roedd Krystle Campbell, 29, o Arlington, Massachusetts, yn gwylio ei chariad yn rhedeg y ras pan gafodd ei lladd yn y ffrwydradau.
Mae’n debyg mai Lu Lingzi o China, fu’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Boston, oedd y trydydd person i gael eu lladd yn yr ymosodiad.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn.