Y Costa Concordia
Mae cwmni llongau pleser Costa Crociere wedi cael dirwy o filiwn ewro (£850,000) yn dilyn trychineb y Costa Concordia, pan gafodd 32 o bobol eu lladd.
Roedd y cwmni wedi gofyn am fargen i ymateb i’r gosb, ac fe gafodd y ple ei dderbyn yn dilyn gwrandawiad.
Mae’r cwmni’n dweud mai capten y llong, Francesco Schettino oedd yn gyfriol am y ddamwain ar ôl gwyro a tharo yn erbyn creigiau ar ynys Giglio ar Ionawr 13 y llynedd.
Mae’r erlynwyr yn gobeithio dwyn achosion o ddynladdiad yn erbyn Schettino a phum person arall.
Gallai gwrandawiad gael ei gynnal ddydd Llun, ond does dim sicrwydd eto a fydd dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer prawf.
Mae Schettino wedi’i gyhuddo o ddynladdiad, achosi trychineb hwylio a gadael y llong cyn i’r holl deithwyr lwyddo i adael.
Awgrymodd Schettino ar y pryd ei fod e wedi bod yn arwr yn dilyn y ddamwain, ac fe ddywedodd nad oedd y creigiau wedi’u nodi ar fapiau.
Ond dywedodd hwylwyr eraill fod y creigiau’n adnabyddus yn yr ardal.
Mae’r llong yn dal i fod ar ei hochr ym mhorthladd Giglio, ac mae’r ymdrechion i’w symud eisoes wedi dechrau.