Kim Jong Un
Mae Gogledd Corea yn annog tramorwyr yn Ne Corea i adael gan rybuddio fod rhyfel niwclear ar fin dechrau.

Ond mae dadansoddwyr yn dweud bod ymosodiad uniongyrchol ar Seoul yn annhebygol iawn.

Maen nhw’n dweud bod y rhybudd gan Bwyllgor Heddwch Asia-Passiffig Gogledd Corea yn debyg i fygythiadau yn y gorffennol a’i fod yn ymdrech i gynyddu pryder ymhlith tramorwyr a hybu delwedd yr arweinydd Kim Jong Un.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd Gogledd Corea wedi dweud wrth ddiplomyddion tramor yn Pyongyang na allen nhw sicrhau eu diogelwch ar ôl dydd Mercher.