Mae nifer o rocedi wedi ffrwydro ar gyrion dinas Damascus, gan ladd o leiaf pump o bobol.

Glaniodd y rocedi yn rhanbarth Barzeh, lle mae gwrthwynebwyr i’r Arlywydd Assad wedi eu lleoli.

Yn ôl adroddiadau lleol, glaniodd 14 o rocedi dros nos, a chafodd nifer o bobol eu claddu o dan y rwbel.

Dywedodd Arsylwyr Hawliau Dynol Syria bod nifer o bobol wedi eu lladd, ond nid yw union natur yr ymosodiad yn glir hyd yma.