Irac
Mae hunanfomiwr wedi ffrwydro dyfais o flaen swyddfa’r heddlu yng nghanol Irac, gan ladd pump o blismyn.

Mae’r ymosodiad yn Tikrit, i’r gogledd o’r brifddinas, Baghdad, wedi anafu 15 o bobol eraill hefyd.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb yn syth, ond mae’r awdurdodau’n dweud fod yr ymosodiad yn debyg iawn i waith cangen Irac o Al Qaida.

Mae’r grwp hwnnw’n defnyddio bomiau car a hunanfomwyr yn gyson, ac yn targedu Mwslimiaid Shiite a’r rheiny sy’n gweithio i lywodraeth Shiite y Prif Weinidog, Nouri al-Maliki.