Mae milwr Americanaidd wedi cael ei drywanu i farwolaeth gan fachgen yn ei arddegau yn Afghanistan, tra’r oedd yn chwarae gyda grwp o blant lleol.
Fe ddaeth yr ymosodiad wrth i nifer y milwyr o America a gafodd eu lladd yn Afghanistan yn ystod mis Mawrth gynyddu i 14 .
Mae’r gwanwyn yn ddechrau ar dymor ymladd y Taliban, wrth i’r tywydd wella a’i gwneud hi’n haws ymosod.
Roedd y Sarjant Michael Cable, 26, yn amddiffyn swyddogion a oedd yn cynnal cyfarfod ar y ffin â Phacistan, pan ddigwyddodd yr ymosodiad ddydd Mercher diwetha’.
Fe ddaeth wedi i’r ardal gael ei dyfarnu’n ddiogel. Yn ôl adroddiadau, doedd yr ymosodwr yn ddim llawer hŷn nac 16 oed.