Protestiadau yn erbyn treisio merch yn India ddiwedd y llynedd
Mae canran sylweddol o ymwelwyr tramor yn osgoi mynd ar wyliau i India, yn dilyn y sylw mawr sydd wedi bod i’r achos o dreisio a llofruddio merched ar fysiau yn y wlad.

Mae canlyniadau arolwg yn awgrymu fod yr ymosodiadau ar fercher wedi newid y ffordd y mae ymwelwyr yn ystyried India. Mae wedi arwain at gwymp yn nifer ymwelwyr – yn enwedig ymysg merched.

Mae Siamberi Masnach a Diwydiant India yn dweud fod y tri mis cynta’r flwyddyn hon wedi gweld cwymp yn nifer yr ymwelwyd â’r wlad – a hynny o 25%.

Mae nifer y gwragedd sy’n ymweld ag India wedi cwympo 35%.

Roedd 1,200 o gwmnïau gwyliau o bob cwr o India yn rhan o’r arolwg.