Mae dau o ddynion yn China wedi marw o fath prin o ffliw adar. Dyma’r tro cynta’ i bobol farw o’r math hwn o’r feirws.
Mae arbenigwyr iechyd yn ansicr eto ynglyn â sut y cafodd y dynion o ardal Shanghai eu heintio. Ond maen nhw’n pwysleisio na chafodd yr haint ei drosglwyddo gan y naill i’r llall.
Mae trydydd person – gwraig yn nhalaith Anhui, hefyd wedi ei heintio â’r straen H7N9, ac mae hi mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty.
Mae ffliw adar H7N9 yn cael ei ystyried yn haint sy’n anodd iawn i bobol ei ddal. Mae’r mwyafrif llethol o achosion o ffliw adar wedi bod o ganlyniad i’r math llawer mwy heintus, H5N1. Hwnnw oedd y math a laddodd filoedd ar filoedd o ddofednod yn Asia yn 2003.