Newyn yw’r sgandal a’r her fwyaf sy’n wynebu unigolion a llywodraethau’r byd y Pasg hwn, yn ôl neges Cadeirydd Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
“Tra bo ni’n dathlu atgyfodiad Iesu, Bara’r Bywyd, mae bron biliwn o bobl yn byw mewn newyn,” meddai Dr Fiona Gannon.
“Eto, byddai digon o fwyd ar gyfer pawb petai pedwar anghyfiawnder mawr yn cael eu dileu.”
“Os gallwn atal cwmnïau mawr rhag osgoi talu trethi mewn gwledydd tlawd, gan alluogi miliynau o bobl i ryddhau eu hunain o newyn; os gwnawn y buddsoddiadau cywir i atal pobl rhag marw o newyn, a helpu’r bobl dlotaf i fwydo eu hunain…
“Os gallwn rwystro ffermwyr tlawd rhag cael eu gorfodi oddi ar eu tiroedd a defnyddio cnydau i fwydo pobl, nid eu troi’n danwydd i geir… ac os gorfodwn lywodraethau a chwmnïau mawr i fod yn onest ac yn agored am weithredoedd sy’n atal pobl rhag cael digon o fwyd.
“Pa ffordd well o ddathlu’r Pasg na thrwy addunedu o’r newydd i ymgyrchu dros y tlawd a’r newynog?” meddai Fiona Gannon wedyn.