Mae Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Cymru, wedi rhybuddio fod y wlad yn wynebu’r blynyddoedd “mwyaf heriol ers datganoli”, yn sgil toriadau yn y gyllideb gan lywodraeth San Steffan.
Mae’r toriadau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yng Nghyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ynghyd â’r toriadau a wnaed yn ystod Datganiad yr Hydref y llynedd, yn golygu y bydd £32 miliwn yn llai yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru i’w wario o ddydd i ddydd.
Fe fydd yn cael effaith negyddol ar feysydd datganoledig fel y Gwasanaeth Iechyd, addysg, llywodraeth leol a datblygu economaidd. Fe fydd gan Lywodraeth Cymru £81m yn llai eto i’w wario yn ystod y flwyddyn 2014-15.
“Bydd Cyllideb y Canghellor – sy’n torri mwy fyth ar ein Cyllideb – yn rhoi cryn bwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus eleni, a mwy fyth y flwyddyn nesaf,” meddai Jane Hutt.
“Mae hyn yn golygu mai’r blynyddoedd nesaf fydd y rhai mwyaf heriol ers datganoli.
“Mae lefel y toriadau sy’n cael eu gorfodi arnom yn annerbyniol, a ninnau’n ceisio cefnogi economi Cymru a hybu twf. Mae’n golygu y bydd gennym lai o arian i’w fuddsoddi mewn ysgolion newydd, ysbytai newydd, ffyrdd newydd, tai cymdeithasol newydd a phrosiectau seilwaith eraill.”