Alun Davies, y gweinidog sy'n gyfrifol am y corff newydd
Mae’r corff amgylcheddol newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cychwyn ar ei waith heddiw.

Mae’n cymryd lle’r Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru.

Gyda chylch gwaith ehangach nag unrhyw un o’r rhain, bydd y corff newydd bydd yn ystyried materion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd wrth reoli adnoddau naturiol a gwella’r amgylchedd.

“Mae’r amgylchedd naturiol yn wirionedd hanfodol i’n heconomi yma yng Nghymru, felly mae’n hanfodol ei fod yn cael ei reoli mewn effeithiol ac effeithlon ag sy’n bosibl,” meddai’r Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd credwn y bydd un corff yn arwain at ffordd symlach a mwy effeithiol o weithio a gwell gwerth am arian.”

Gwerth £8 biliwn i’r economi

Ychwanegodd Peter Matthews, cadeirydd y corff newydd: “Mae’r amgylchedd naturiol yn wrth £8 biliwn i economi Cymru ac fel Cyfoeth Naturiol Cymru, mae arnon ni eisiau adeiladu ar hyn.”

Mae rhaglen waith blwyddyn gyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnwys:

  • Diogelu pobl a’u cartrefi hynny ag sy’n bosibl rhag llifogydd a llygredd
  • Cynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd
  • Rhoi cyfle i bobl ddysgu o adnoddau naturiol Cymru ac elwa arnyn nhw
  • Cefnogi economi Cymru trwy ddefnyddio adnoddau naturiol i gefnogi swyddi a menter
  • Helpu busnesau i ddeall effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd eu gwaith
  • Helpu gwneud yr amgylchedd yn fwy abl i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.