Mae o leiaf 18 o bob wedi cael eu lladd wrth i adeilad 12 llawr ddymchwel yn ninas fwyaf Tanzania, Dar es Salaam.
Dywedodd y comisiynydd heddlu Meshak Saddik y gallai 60 o bobl fod wedi cael eu dal o dan y rwbel ac nad oedd fawr o obaith cael hyd i ragor o bobl yn fyw.
Roedd yr adeilad ar fin cael ei gwblhau ac nid oedd tenantiaid yno. Roedd y rhai a gafodd eu lladd yn cynnwys labrwyr a phobl a oedd yn cerdded heibio.
Dywedodd Mr Saddik fod yr heddlu’n holi tri pheiriannydd a oedd yn gweithio ar yr adeilad.
Mae digwyddiadau o’r fath yn ddigon cyffredin mewn gwledydd yn nwyrain Affrica wrth i rai adeiladwyr anwybyddu rheoliadau er mwyn torri ar gostau.