Eglwys Gadeiriol Caergaint (Hans Musil CCA3.0)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cyfrannu at greu sefyllfa lle mae Cristnogion yn teimlo’u bod nhw’n rhan o leiafrif dan erledigaeth, yn ôl un o gyn-archesgobion Caergaint.

Dywed yr Arglwydd Carey fod Cristnogion yn amau diffuantrwydd y Prif Weinidog pan ddywed ei fod yn cefnogi eu hawl i fyw yn ôl eu ffydd.

“Yn ôl arolwg barn newydd, mae dau o bob tri o Gristnogion yn teimlo’u bod nhw’n rhan o leiafrif dan erledigaeth,” meddai’r Arglwydd Carey. “Efallai fod hyn yn gor-ddweud gan mai ychydig iawn sy’n dioddef erledigaeth wirioneddol ym Mhrydain – ond mae’r Prif Weinidog wedi gwneud mwy nag unrhyw arweinydd gwleidyddol arall i fwydo’r ofnau rheini.

“Er gwaethaf ei gefnogaeth i hawliau Cristnogion i wisgo’r groes, roedd cyfreithwyr a oedd yn gweithredu ar ran ei lywodraeth yn dadlau yn Llys Strasbourg rai misoedd yn ôl y dylai’r rheini sy’n cael y sac am wisgo’r groes yn erbyn dymuniadau eu cyflogwr gael swydd arall.”

Amheuon

Dywedodd yr Arglwydd Carey hefyd fod ganddo amheuon mawr ynghylch cynlluniau’r Llywodraeth i ganiatáu priodasau hoyw.

“Dw i’n amau’n gryf fod, y tu ôl i’r cynlluniau am briodasau hoyw, agweddau seciwlaraidd ymosodol tuag at sefydliad sydd wedi cadw cymdeithas gyda’i gilydd,” meddai.

“Y perygl gydag agweddau’r llywodraeth at briodas a rhyddid crefyddol yw y bydd hi’n ennyn llid lleiafrif mawr o bobl a fyddai ychydig flynyddoedd yn ôl wedi cael eu hystyried yn bileri’r gymdeithas.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran rhif 10 Downing Street:

“Mae’r llywodraeth yn cefnogol iawn i ffydd ac i Gristnogaeth yn benodol, gan gynnwys hawliau pobl i wisgo croesau yn y gwaith a gweddïo mewn cyfarfodydd cyngor, ar ôl degawd o seciwlariaeth a chywirdeb gwleidyddol gan y Blaid Lafur.

“Mae Cristnogaeth yn chwarae rhan hanfodol yn y Gymdeithas Fawr, o’r llawer o ysgolion eglwys ardderchog i’r nifer mawr o achosion elusennol sy’n gweithredu o eglwysi ledled y wlad.”