Mae dynes wedi cael ei chyhuddo o esgeuluso plentyn ar ôl i ferch ddwyflwydd a hanner gael ei darganfod mewn pram yng Nghaerliwelydd – Carlisle – nos Iau.
Yn dilyn apêl gan yr heddlu roedd dynes 41 oed wedi cael ei harestio ddoe.
Meddai llefarydd ar ran Heddlu Cumbria: “Mae Ewa Smolenska-Golawska, 41, o Warwick Road, Caerliwelydd, wedi cael ei chyhuddo o esgeuluso plentyn.
“Fe fydd hi’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerliwelydd y bore yma.”