Kim Jong Un
Dywed Gogledd Korea ei bod hi bellach “mewn stad o ryfel” yn erbyn De Korea – er nad oes arwyddion o unrhyw weithredu milwrol ar hyn o bryd.
Ddoe, roedd Kim Jong Un, arweinydd ifanc y wladwriaeth gomiwnyddol hynod yn nwyrain Asia wedi bygwth America oherwydd fod dwy awyren fomio B-2 wedi bod yn hyfforddi uwchben De Korea.
Dywed arbenigwyr fod rhyfel llawn yn annhebyg ar hyn o bryd, ac mai amcan y bygythiadau yw denu cymorth gan America i Ogledd Korea.
Mae pryderon fodd bynnag y gall y rhethreg fwyfwy gelyniaethus arwain at gychwyn rhyfel damweiniol rhwng Gogledd a De Korea, ac mae’r ffaith fod Kim Jong Un mor ifanc a dibrofiad yn dwysáu’r pryder.
Mae Penrhyn Korea wedi bod mewn stad o ryfel mewn enw ers rhyfel 1950-53 gan iddo ddiweddu mewn cadoediad yn hytrach na chytundeb heddwch.