Mae’r Swyddfa Dramor yn ymchwilio ar ol i ddynes 25 oed o Brydain neidio o falconi ar drydydd llawr y gwesty lle’r oedd yn aros ar ol i ddyn geisio dod i mewn i’w hystafell.

Mae’r ddynes yn gwella yn yr ysbyty yn India ar ôl neidio o falconi’r gwesty yn ninas Agra yng ngogledd y wlad. Mae’n debyg ei bod wedi cael anafiadau i’w choesau.

Honnir bod perchennog y gwesty wedi ceisio dod i mewn i’w hystafell ar ol iddi ofyn am alwad ffon am 4yb i’w deffro. Mae’r dyn bellach wedi cael ei arestio.

Ymosodiad ar ddynes o’r Swistir

Ddydd Gwener, cafodd chwe dyn eu harestio yn yr un dalaith – Madhya Pradesh – yn dilyn ymosodiad rhyw ar ddynes o’r Swistir oedd ar wyliau gyda’i gŵr.

Cafodd ei threisio wrth i’r ddau stopio i wersylla mewn coedwig.

Dywedodd hithau bod saith neu wyth o ddynion wedi ymosod arni.

Daw’r ymosodiadau diweddaraf dri mis ar ôl i ddynes arall farw o’i hanafiadau ar ôl cael ei threisio ar fws yn ninas New Delhi.

Rhybudd i fenywod

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydyn ni’n ymwybodol o’r adroddiadau ac yn ymchwilio iddyn nhw.

“Rydyn ni mewn cysylltiad gyda’n cydweithwyr yn India.”

Mae’r Swyddfa Dramor wedi rhybuddio menywod i fod yn wyliadwrus yn India, hyd yn oed fel rhan o grŵp, ac i beidio cerdded na theithio ar eu pennau eu hunain.