Hinkley Point
Mae Ysgrifennydd Ynni San Steffan yn debygol o roi sêl bendith brynhawn yma i atomfa niwclear newydd sydd “ar garreg drws” Cymru.

Dim ond 14 milltir ar draws aber yr Hafren sydd rhwng Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf a thref y Barri.

Mae EDF Energy yn awyddus i godi trydedd atomfa yn Hinkley Point a fyddai’n gallu cynhyrchu 7% o anghenion trydan y Deyrnas Gyfunol ac yn pweru pum miliwn o gartrefi medd y cwmni o Ffrainc.

Ond mae mudiadau amgylcheddol yn gwrthwynebu. Yn ôl John Sauven o Greenpeace mae Hinkley Point C yn “methu pob prawf – economaidd, amgylcheddol, defnyddiol ac o bosib cyfreithiol” meddai.

Dywedodd nad oes cynlluniau digon manwl ar gyfer delio gyda gwastraff niwclear fydd yn cael ei gynhyrchu gan y safle.

Mae’r Ysgrifennydd Ynni Ed Davey yn gwneud cyhoeddiad ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn yma.

‘Mater mawr i Gymru’

Y llynedd rhybuddiodd CND Cymru fod Hinkley Point C “ar garreg drws Cymru” ac y byddai unrhyw ddamwain yno yn cael effaith ar dde Cymru.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru hefyd wedi rhybuddio fod Hinkley Point yn “fater mawr i ni yng Nghymru.”

Mewn erthygl yn 2011 dywedodd cyfarwyddwr y mudiad, Gareth Clubb, y byddai “digwyddiad niwclear mawr yn Hinkley Point yn cyflwyno’r gwaethaf posib – y gallu i lywodraethu Cymru yn dymchwel, niwed economaidd ac amgylcheddol di-droi-nôl, a chwymp cymdeithasol.”

Swyddi

Mae undeb Unite wedi dweud y bydd codi atomfa newydd yn hwb mawr o ran swyddi.

“Bydd codi Hinkley Point C yn creu miloedd o swyddi adeiladu da am y pum mlynedd nesaf, a thua 800 o swyddi er mwyn rhedeg yr orsaf bŵer dros y 60 mlynedd nesaf,” meddai Kevin Coyne o’r undeb.

“Rydym ni’n gobeithio mai dyma’r cyntaf mewn fflyd o bwerdai niwclear a fyddai’n creu swyddi adeiladu am yr ugain mlynedd nesaf. Mae niwclear yn rhan bwysig o bolisi ynni cytbwys, i stopio’r golau rhag diffodd.”

Cytundeb ar bris y trydan

Fis diwethaf cyhoeddodd cwmni Centrica na fyddan nhw’n parhau i fuddsoddi gyda EDF Energy er mwyn codi atomfeydd niwclear newydd.

Dywedodd Centrica, sy’n rhan o Nwy Prydain, fod costau buddsoddi mewn niwclear wedi cynyddu a bod trychineb Fukushima yn Japan wedi cael effaith ar amserlen codi unrhyw atomfa newydd.

Mae penderfyniad terfynol EDF Energy yn seiliedig ar ddod i gytundeb gyda Llywodraeth Prydain ar bris y trydan fydd yn cael ei gynhyrchu gan y safle.