Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn 23 oed y tu allan i westy yng Nghaerdydd.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw. Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag arf finiog yn ei feddiant.
Digwyddodd yr ymosodiad tua 10.30am ar ddydd Sul, Mawrth 17 y tu allan i westy’r Lynx yn y brifddinas.
Mae’r dyn 23 oed bellach wedi cael ei ryddhau o Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn triniaeth am anafiadau i’w wddf.