Roedd chwyddiant wedi codi ym mis Chwefror, y cynnydd cyntaf ers pedwar mis, yn ol y ffigurau diweddaraf heddiw.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi i 2.8%  ym mis Chwefror o 2.7% yn y pedwar mis blaenorol.

Biliau ynni a thanwydd sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd.

Mae’r cynnydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Canghellor George Osborne cyn iddo gyflwyno ei Gyllideb yfory, wrth i CPI gynyddu’n uwch na’i darged o 2%.

Mae’r ffigurau heddiw hefyd yn dangos bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) wedi gostwng i 3.2% ym mis Chwefror o 3.3% ym mis Ionawr wrth i gostau bwyd ostwng rhywfaint.

Dywedodd y Trysorlys bod y cynnydd mewn CPI “yn unol â disgwyliadau’r farchnad a’i fod wedi gostwng bron i’w hanner ers cyrraedd uchafbwynt o 5.2%.”

Ond mae economegwyr yn rhybuddio y gall CPI gyrraedd 3.5% erbyn yr haf wrth i brisiau bwyd a thanwydd gynyddu eto.

‘Adfer hyder’

Wrth ymateb i’r cynnydd yn y ffigwr CPI dywedodd Cadeirydd Uned Bolisi Cymreig Ffederasiwn y Busnesau Bach, Janet Jones: “Gyda gwerth isel y bunt a’r cynnydd parhaus ym mhris ynni a thanwydd, dyw’r cynnydd yn lefel chwyddiant ddim yn annisgwyl.

“Er hynny rydym ni’n poeni mai dyma’r lefel uchaf er mis Mai 2012. Rydym yn galw ar y Canghellor i ddiddymu’r cynnydd o 3c yn y dreth ar danwydd yn y Gyllideb yfory i adfer hyder ymhlith busnesau a theuluoedd ar draws Cymru.”