Hugo Chavez
Mae arweinwyr dros-dro Venezuela wedi galw am undod ar ôl i’r arlywydd Hugo Chavez farw ar ôl 14 mlynedd wrth y llyw yn y wlad.

Mewn datganiad emosiynol ar deledu’r wlad dywedodd yr is-arlywydd Nicolas Maduro fod Hugo Chavez wedi marw ar ôl “brwydro’n galed yn erbyn salwch am bron i ddwy flynedd.”

Nicolas Maduro fydd yr arlywydd dros dro, a galwodd ar bobol y wlad i ymddwyn “gydag urddas.”

Mae saith niwrnod o alar wedi cael eu galw a bydd holl ysgolion a  phrifysgolion Venezuela ar gau tan Ddydd Llun. Mae disgwyl i Hugo Chavez gael ei gladdu Ddydd Gwener.

Triniaeth yng Nghiwba

Wrth i’r newyddion dorri yn y brifddinas Caracas caeodd siopau a bwytai ac anelodd y trigolion am adre, rhai gan redeg.

Roedd sawl digwyddiad o drais gwleidyddol neithiwr, a chafodd grŵp o fyfyrwyr, a fu’n cynnal protest yn galw am fwy o wybodaeth am gyflwr Hugo Chavez, eu hymosod y tu allan i uchel lys y wlad.

Roedd Chavez wedi bod yn glaf mewn ysbyty milwrol yn Caracas ers dychwelyd o driniaeth yng Nghiwba ar 18 Chwefror. Roedd yn agos at arweinwyr Ciwba ac yn rhannu eu sosialaeth nhw, a’u hamheuaeth o’r Unol Daleithiau.

Mewn datganiad dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, fod marwolaeth Chavez yn nodi “cyfnod heriol” i Venezuela, a bod yr Unol Daleithiau yn cefnogi pobol y wlad a democratiaeth.