Oscar Pistorius, yr athletwr paralympaidd
Mae brawd yr athletwr paralympaidd Oscar Pistorius yn wynebu cyhuddiad o ddynladdiad wrth gael ei feio am farwolaeth mewn damwain ffordd yn 2010.

Dywed adroddiadau papur newydd yn Ne Affrica fod Carl Pistorius â rhan mewn damwain ffordd pryd y cafodd dynes ei lladd ar feic modur.

Roedd achos llys yn erbyn Carl Pistorius wedi ei drefnu ar gyfer dydd Iau – y diwrnod yr oedd ei frawd Oscar yn wynebu’r gwrandawiad mechnïaeth yn ei achos yntau. Mae Oscar Pistorius yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth rhagfwriadol ar ôl saethu ei gariad Reeva Steenkamp ar Chwefror 14.

Cafodd Oscar Pistorius ei ryddhau ar fechnïaeth ddydd Gwener a chafodd ei frawd Carl ei weld yn gynnar heddiw yn gyrru i gartref eu hewythr Arnold, lle mae Oscar yn aros tra mae ar fechnïaeth.