Map yn dangos lleoliad Mali yng ngorllewin Affrica (Varidon CCA3.0)
Mae milwyr o Chad wedi lladd 65 o wrthryfelwyr Islamaidd mewn brwydr ffyrnig yng ngogledd Mali.

Cafodd 13 o filwyr o Chad hefyd eu lladd yn y frwydr, yn ôl datganiad gan fyddin Mali.

Roedd  Chad wedi anfon 1,800 o luoedd i Mali fel rhan o’r ymgyrch o dan arweiniad Ffrainc i gipio rheolaeth o ogledd Mali o afael eithafwyr Islamaidd sy’n gysylltiedig ag al Qaida.

Mae’r gwrthryfelwyr Islamaidd wedi cilio i ardaloedd mynyddig ar ffin ogleddol Mali ag Algeria ers diwedd Ionawr ar ôl cael eu herlid gan luoedd Ffrainc a Mali o brif drefi gogledd y wlad.