Protestwyr yn y rali yng Nghaerfyrddin y bore yma (llun Rhidian Jones)
Fe ddaeth tua 250 i 300 i rali yng Nghaerfyrddin y bore yma i wrthwynebu cynllun i gau swyddfa bost a rhoi cownter mewn siop yn ei lle.

Mae wyth prif swyddfa bost yng Nghymru yn wynebu’r fwyell a 70 ar draws Prydain. Mae’r Swyddfa Bost yn dadlau fod y canghennau yn gwneud colled a bod angen moderneiddio’r gwasanaeth, ond mae’r cynlluniau’n peri pryder i gynghorwyr sir yng Nghaerfyrddin.

“Dyma un o’r Swyddfeydd Post prysuraf yng ngorllewin Cymru,” meddai’r Cynghorydd Jeff Thomas.

“Mae’n chwarae rôl hanfodol yn denu pobol i Stryd y Brenin, lle mae siopau bach yn ei chael hi’n anodd iawn i oroesi’r dirwasgiad.

“Byddai colli Swyddfa’r Post yn ergyd greulon, ac yn enghraifft arall o sut mae asiantaethau canolog yn difetha gwasanaethau cyhoeddus a lleol.”

‘Torri addewid’

Dywed cynghorwyr y dref fod dwy swyddfa bost fechan wedi cau yng Nghaerfyrddin yn y blynyddoedd diwethaf, gydag addewid y byddai’r prif swyddfa bost y dre’n ddiogel.

“Maen nhw wedi mynd yn ôl ar eu gair,” meddai’r Cynghorydd Alan Speake.

Ymhlith y siaradwyr yn y rali ar Sgwâr Nott roedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, Simon Hart, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ganolbarth a gorllewin Cymru, Simon Thomas, Maer Caerfyrddin, Phil Grice, Cadeirydd y Siambr Fasnach Matt Davies a Chadeirydd Cymdeithas Ddinesig y dref, Arwyn Davies.