Reeva Steenkamp - wedi ei tharo gan dri bwled
Roedd “gweiddi di-baid” yn dod o dŷ Oscar Pistorius cyn i’w gariad gael ei saethu, meddai’r erlyniad mewn gwrandawiad yn Ne Affrica.

Mae’r rhedwr 26 oed o flaen llys yn Pretoria yn gofyn am gael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio’r fodel Reeva Steenkamp, 29.

Yn ôl yr erlynydd Gerrie Nel mae gan yr erlyniad dyst a glywodd weiddi o dŷ’r rhedwr rhwng 2 a 3 fore dydd Iau diwethaf.

Roedd Reeva Steenkamp wedi ei saethu trwy ddrws ystafell molchi ac, meddai’r erlyniad, wedi cael ei tharo dair gwaith.

‘Mewn cariad’

Mae Oscar Pistorius wedi dweud ei fod ef a Reeva Steenkamp mewn cariad a’i fod wedi saethu trwy ddrws yr ystafell molchi am ei fod yn meddwl fod lleidr yno.

Mae’r ynad Desmond Nair wedi dweud ei fod yn trin y cyhuddiad yn un o lofruddiaeth oedd wedi’i bwriadu ymlaen llaw – mae hynny’n golygu mai dim ond mewn “amodau eithriadol” y gall Pistorius obeithio cael mechnïaeth.

Fe fydd rhai misoedd cyn dechrau’r achos llofruddiaeth ei hun ac mae’r erlyniad wedi dweud hefyd eu bod eisiau i’r athletwr gael ei gyhuddo o fod â gwn yn ei feddiant heb drwydded.