Mae gweithwyr cwmni hedfan Iberia o Sbaen yn dechrau ar 15 diwrnod o streiciau heddiw yn erbyn cynlluniau i dorri 3,800 o swyddi.

Mae 70,000 o deithwyr yn mynd i gael eu heffeithio a dywed Iberia eu bod nhw wedi dod o hyd i seddi ar awyrennau eraill i’r rhan fwyaf ohonyn nhw.

Mae’r streiciau yn cael eu cynnal mewn tameidiau dros gyfnod o bum wythnos, ac yn mynd i arwain at ganslo 1,200 o deithiau, gan gynnwys 236 heddiw.

Mae undebau sy’n cynrychioli gweithwyr Iberia ar y ddaear, a chriw’r caban, wedi galw streic, ond ni fydd peilotiaid yn streicio.

Mae Iberia wedi dweud fod trafferthion economaidd yn eu gorfodi nhw i gael gwared a swyddi.