Maes awyr Heathrow
Mae maes awyr Heathrow wedi cyhoeddi refeniw o £2.46 biliwn yn 2012, cynnydd o 8% ar 2011, wedi i’r nifer uchaf erioed o deithwyr ei ddefnyddio.

Roedd 70 miliwn o deithwyr wedi mynd ar  471,000 o deithiau’r llynedd, gan greu elw o £46.4 miliwn i’r maes awyr.  Cyhoeddwyd hefyd bod lefelau boddhad teithwyr ar ei uchaf erioed, yn ôl canlyniadau arolwg gan y Cyngor Meysydd Awyr Rhyngwladol.

Mae’r arolwg yn dangos i’r nifer uchaf erioed o deithwyr fod yn fodlon hefo’r gwasanaeth, a bod 92.8% o deithwyr wedi pasio drwy’r systemau diogelwch o fewn amser derbyniol.

Er y canlyniadau dymunol, mae rhybuddion gan y cwmni na fydd y maes awyr yn gallu parhau i gystadlu hefo meysydd awyr mewn gwledydd eraill, gan ei fod yn gweithio i’w fedr lawn yn barod.

Mae’r maes awyr wedi ei gyfyngu i 480,000 o hediadau’r flwyddyn, ac mae cwmni Heathrow wedi rhybuddio gall y cyfyngiad danseilio gallu’r DU i fasnacha gyda gwledydd eraill.

Bydd y gwaith o ail-adeiladu Terfynfa 2 yn Heathrow yn cael ei gwblhau eleni, gyda hediadau i adael y safle o 2014 ymlaen.  Cafodd £1.1 biliwn ei fuddsoddi yn y maes awyr y llynedd, cynnydd o 30% ar 2011.

Y  gobaith yw  y bydd y datblygiad newydd yma yn galluogi’r maes awyr i barhau i dyfu yn y dyfodol.