Nigeria
Credir bod dyn o Brydain, sy’n gweithio i gwmni adeiladu, ymhlith saith o bobl sydd wedi cael eu herwgipio gan eithafwyr Islamaidd yn Nigeria.
Dywed yr heddlu yn Nigeria bod saith o dramorwyr, sy’n gweithio i gwmni adeiladu Setraco o Lebanon, wedi cael eu cipio ar ôl i griw ladd swyddog diogelwch ar y safle yn nhalaith Bauchi yng ngogledd y wlad yn hwyr ddydd Sadwrn.
Dywedodd cadeirydd y llywodraeth leol Adamu Aliyu bod y rhai gafodd eu cipio yn dod o Brydain, yr Eidal, Gwlad Groeg, y Philipinau a Lebanon, a bod dynes ymhlith y rhai sydd wedi cael eu cipio.