Mae cynllun i gau ysgol gynradd cyfrwng-Cymraeg ar y ffin ieithyddol ym Mhowys yn “ymosodiad cwbl unigryw ar gymuned ac ar addysg gyfrwng-Cymraeg” meddai Cymdeithas yr Iaith.

Mae Cyngor Sir Powys yn argymell cau Ysgol Carno gan adael y rhieni i ddewis anfon y plant i Lanbrynmair yn y gorllewin i gael addysg trwy’r Gymraeg, neu i’r dwyrain i gael addysg trwy’r Saesneg.

Ond mae’r cynghorydd sy’n gyfrifol am addysg ar Gabinet Cyngor Sir Powys, Myfanwy Alexander, wedi dweud wrth Golwg360 nad yw hi’n bosib diogelu pob ysgol.

“Sneb isie cau ysgolion bach,” meddai Myfanwy Alexander.

“Ond mae’n annheg disgwyl i blant gael addysg mewn amodau sydd ddim yn addas. Mae cyflwr adeilad Ysgol Carno yn warthus a byddai’n rhaid i’r cyngor fuddsoddi miliynau er mwyn ei adfer.

“Rydym ni mewn sefyllfa ariannol anodd ac mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi her i ni leihau llefydd gwag ac rydym ni’n trio ffindio ffordd dderbyniol ymlaen.”

‘Chwalu cymuned’

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, nad yw “erioed wedi gweld o’r blaen sefyllfa lle mae chwalu cymuned a gorfodi nifer mawr o ddisgyblion allan o addysg Gymraeg yn bolisi bwriadol gan Gyngor.”

Yn ôl y Gymdeithas nid yw Ysgol Llanbrynmair yn medru cymryd mwy na hanner y 46 o ddisgyblion yn Ysgol Carno, gan adael y gweddill i gael addysg gynradd trwy’r Saesneg i’r dwyrain ac addysg uwchradd Saesneg yn Llanidloes.

Ond mae Myfanwy Alexander yn anghytuno gyda’r farn honno.

“Mae yna le yn Ysgol Llanbrynmair,” meddai.

“Mae Llanbrynmair yn fwy o gadarnle i’r iaith na Charno felly fe allwch chi ddadlau y bydd profiad ieithyddol y plant yn fwy Cymraeg yno, a byddan nhw’n symud ymlaen wedyn i Ysgol Bro Ddyfi i gael addysg ddwyieithog.”

Roedd Myfanwy Alexander yn cydnabod bod rhai rhieni sy’n byw i’r dwyrain o Garno yn teimlo bod Llanbrynmair yn rhy bell ac yn mynd i anfon eu plant i ysgol yn y dwyrain. Dywedodd fod Ysgol Dyffryn Trannon yn Nhrefeglwys, sydd â ffrwd Gymraeg, yn un opsiwn ar eu cyfer nhw, ond bod niferoedd yn brin yno.

Mae Cyngor Powys yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol ar ddyfodol Ysgol Carno ar hyn o bryd. Bydd Cabinet y cyngor yn trafod y mater ym mis Ebrill ac mae disgwyl penderfyniad terfynol ar ddyfodol yr ysgol ym mis Medi.