Mae corff meddygol dylanwadol wedi mynnu heddiw bod camau’n cael eu cymryd i geisio mynd i’r afael a’r cynnydd mewn gordewdra – mae’r camau’n cynnwys codi treth ar ddiodydd pefriog llawn siwgr, cyfyngu ar werthwyr bwyd cyflym yn agos at ysgolion, a rhoi cyngor penodol i rieni ynglŷn â pha fwydydd i roi i’w plant.

Mae’r Academi Colegau Meddygol Brenhinol (AMRC), sy’n cynrychioli bron pob un  o’r 220,000 o feddygon ym Mhrydain, yn pwyso ar weinidogion, cynghorau, y GIG a sefydliadau bwyd i gymryd camau i geisio atal “yr argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf yn y DU,” yn ôl adroddiad yn y Guardian.

Mewn adroddiad, dywed yr AMRC bod meddygon yn hynod bryderus am y sefyllfa ac mae wedi beirniadu’r llywodraethau presennol a blaenorol am eu methiant i fynd i’r afael a’r broblem.