David Cameron
Ar ddechrau ei daith fasnach i Mumbai, mae David Cameron wedi dweud ei fod yn benderfynol i’w gwneud yn haws i bobl fusnes a myfyrwyr o India i weithio, astudio a buddsoddi yn y DU.
Ond mae’r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir ei fod am i India chwalu’r rhwystrau sy’n atal buddsoddiad fel bod cwmnïau o’r DU yn gallu bod yn rhan o’r twf economaidd mewn meysydd fel bancio ac yswiriant.
Dywedodd David Cameron ei fod yn cwrdd â’r llywodraeth yn Delhi i drafod cynlluniau i ddatblygu’r cysylltiadau rhwng Mumbai a Bangalore, gan gynnwys trefi ac isadeiledd newydd, a fyddai’n darparu cyfleoedd i gynllunwyr, cwmniau adeiladu, penseiri ac arbenigwyr ariannol o Brydain.