Bydd trigolion Ecuador yn pleidleisio mewn etholiad heddiw i ddewis yr arlywydd nesaf.

Y gred yw y bydd yr arwydd presennol Rafael Correa yn ennill y dydd. Mae polau piniwn yn dangos ei fod bell ar y blaen i’w wrthwynebydd agosaf, Guillermo Lasso, sy’n gyn-fanciwr.

Mae Rafael Correa yn cael ei edmygu am ddod â sefydlogrwydd gwleidyddol i’r wlad ond mae hefyd wedi cael ei feirniadu am fod yn unben.

Mae Correa, sy’n 49 oed, wedi bod yn arlywydd ers 2007.