Oscar Pistorius (Llun: PA)
Mae’r athletwr Olympaidd a Pharalympaidd, Oscar Pistorius yn ymddangos o flaen llys yn Ne Affrica ar gyhuddiad o lofruddio’i gariad.
Cafodd ei arestio ddoe ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i gartref y pâr mewn stad gaeedig .
Fe ddaethon nhw o hyd i gorff y model Reeva Steenkamp, 30 oed, oedd wedi cael ei saethu bedair gwaith – yn ei phen, ei braich a’i choes.
Cafodd Oscar Pistorius ei arestio’n ddiweddarach ac fe ddaethpwyd o hyd i ddryll yng nghartref y pâr.
Roedd yna adroddiadau bod yr athletwr, sy’n cael ei adnabod wrth y ffugenw ‘Blade Runner’ oherwydd ei goesau prosthetig, wedi camgymryd ei gariad am leidr.
Cadw gynnau
Ond roedd hi hefyd yn wybyddus ei fod yn cadw nifer o ynnau yn y tŷ ac mae sïon bod ambell ffrae wedi bod o’r blaen.
Mae disgwyl i gyfreithwyr Pistorius wneud cais am fechnïaeth ond fe ddywedodd llefarydd ar ei ran na fyddai’n dweud rhagor ar hyn o bryd.
Cafodd ei gludo ddoe o’r orsaf heddlu i’r ysbyty lle cafodd profion meddygol eu cynnal arno.
Dydd San Ffolant
Daeth i’r amlwg ddoe fod Reeva Steenkamp wedi bod yn trydar am eu cynlluniau Dydd San Ffolant y diwrnod cyn iddi gael ei lladd.
Pistorius, a gafodd ei eni heb goesau o dan ei benglin, oedd yr athletwr cyntaf i ymddangos yn y Gemau Paralympaidd ac Olympaidd, a daeth i amlygrwydd yn Llundain yn 2012 yn y ras 400m a’r ras gyfnewid 4x400m.
Roedd disgwyl i Reeva Steenkamp ymddangos ar raglen deledu realiti yn Ne Affrica yr wythnos hon.