Gwefan Spurs yn dathlu llwyddiant Bale
Mae chwaraewr Cymru, Gareth Bale, yn dweud ei fod yn chwarae pêl-droed gorau’i fywyd ond fod ganddo lawer o le i wella eto.

Y blaenwr o Gaerdydd a sgoriodd ddwy gôl Spurs wrth iddyn nhw guro Lyon o 2-1 yng Nghwpan Europa.

Wedi’r gêm, roedd rheolwr Spurs, Andre Villas-Boas, yn canmol y Cymro i’r cymylau gan ddweud mai “eiliadau o wychder” oedd wedi ennill  y gêm.

Fe sgoriodd Bale ar ddiwedd y ddau hanner o giciau rhydd – y gynta’ o 35 llath a’r llall yn taro cyflymder o fwy na 92 milltir yr awr.

‘Ar ei orau’

Yn ôl y chwaraewr ei hun, mae’n chwarae ar ei orau ond yn benderfynol o barhau i weithio’n galed.

“Rhaid i fi jyst gadw fy mhen i lawr,” meddai. “Mae yna lawer o wella i’w wneud eto o dymor i dymor.”

Fe  fydd y perfformiad diweddara’n cynyddu’r dyfalu y gallai timau mawr fel Real Madrid fod yn cynnig amdano yn yr haf.