Dim ond un newid sydd i’r olwyr gyda Richard Smith yn safle’r canolwr yn lle Dafydd Hewitt.
Yn y reng ôl bydd Robin Copeland yn dechrau yn safle’r wythwr gyda Thomas Young a Josh Navidi sydd wedi dychwelyd o garfan Cymru fel blaen asgellwyr.
Mi fydd Michael Paterson yn symud i’r ail reng gyda James Down. Bydd y reng blaen yn cynnwys y ddau prop, Fau Filise a Scott Andrews sydd wedi dychwelyd o garfan Cymru, a Marc Breeze fydd yn safle’r bachwr.
‘‘Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn rhan fawr o dymor rygbi, a fydd cyfnodau pan fyddwch heb eich chwaraewyr rhyngwladol. Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd fel garfan.
“Dyma grŵp o chwaraewyr sydd eisiau ennill dros ei rhanbarth,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.
Tîm y Gleision
Olwyr – Jason Tovey, Owen Williams, Richard Smith, Gavin Evans (Capten), Harry Robinson, Rhys Patchell a Lewis Jones.
Blaenwyr – Robin Copeland, Thomas Young, Josh Navidi, James Down, Michael Paterson, Scott Andrews, Marc Breeze a Taufa’ao Filise.
Eilyddion – Kristian Dacey, Sam Hobbs, Benoit Bourrust, Lou Reed, Andries Pretorius, Alex Walker, Gareth Davies a Chris Czekaj.