Nos yfory fe fydd y Dreigiau yn croesawu Glasgow i Rodney Parade.

Dim ond un newid sydd i’r tîm a gurodd Treviso yr wythnos diwethaf.  Bydd Owen Evans yn dechrau yn safle’r prop yn lle Phil Price.

‘‘Rwy’n hynod o gyffrous i gael y cyfle i chwarae.  Adeg hyn llynedd, roeddwn yn hynod o falch i fod yn rhan o dîm broffesiynol, ond nawr yr wyf yma, rwyf eisiau chwarae pob gêm,’’ meddai Owen Evans.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Dan Evans, Will Harries, Pat Leach, Jack Dixon, Tom Prydie, Steffan Jones a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Ieuan Jones, Nic Cudd, Lewis Evans (Capten), Adam jones, Ian Nimmo, Nathan Buck, Hugh Gustafson a Owen Evans.

Eilyddion – Sam Parry, Aaron Coundley, Nathan Williams, Josh Tyler, Jevon Groves, Wayne Evans, Adam Hughes a Hallam Amos.