Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i gyfraddau marwolaethau pump o ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr.

Yn dilyn adroddiad i’r ymchwiliad i ddiffyg rheolaeth a safonau gofal yn Ymddiriedolaeth Canol Swydd Stafford, mae Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd wedi cadarnhau bod pum ymddiriedolaeth arall yn destun ymchwiliadau.

Dywedodd Bwrdd Comisiynu’r GIG fod ymddiriedolaethau ysbytai Colchester, Tameside, Blackpool, Basildon a Thurrock wedi bod ar restr y cyfraddau marwolaethau uchaf ym Mhrydain am ddwy flynedd yn olynol.

Eisoes, mae Adroddiad Francis wedi rhybuddio bod angen cyflwyno newidiadau pellgyrhaeddol o ran safonau gofal wedi iddi ddod i’r amlwg fod rhwng 400 a 1,200 o bobl Ymddiriedolaeth Canol Swydd Stafford wedi marw yn ddiangen rhwng 2005 a 2009.

Dywed yr adroddiad fod angen cau ysbytai sy’n methu â chyrraedd y safonau gofal disgwyliedig.

Rhybuddiodd fod gofal cleifion yn bwysicach na cheisio torri costau ar lefel rheolwyr.

Roedd hefyd wedi galw am un rheoleiddiwr i ofalu am safonau gofal.