Fe fydd adroddiad hir-ddisgwyliedig yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus i “fethiannau difrifol” yn ymddiriedolaeth y GIG yn Sir Stafford yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae disgwyl i’r adroddiad argymell diwygiadau eang yn y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl adroddiadau, fe fydd cadeirydd yr ymchwiliad Robert Francis QC yn argymell bod timau o arolygwyr yn craffu ar waith meddygon a nyrsys mewn ysbytai.

Cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal ar ôl i gannoedd o bobl – rhwng 400 a 1,200 – farw yn ddi-angen yn Ysbyty Stafford rhwng 2005 a 2009 oherwydd safonau gofal “dychrynllyd”.

Clywodd yr ymchwiliad bod cleifion yn cael eu “hesgeuluso” tra bod yr ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar dargedau a thorri costau.