Chris Huhne
Mae’r cyn weinidog y Cabinet Chris Huhne yn wynebu dedfryd o garchar ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn honiadau bod ei gyn-wraig wedi cymryd pwyntiau am oryrru ar ei ran.

Roedd Huhne, 58, wedi gwadu’r cyhuddiad ond fe newidiodd ei ble ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Southwark heddiw.

Honnir bod y cyn weinidog ynni, a ymddiswyddodd o’r Cabinet y llynedd ar ôl cael ei gyhuddo, wedi dwyn perswâd ar ei gyn-wraig Vicky Pryce, i gymryd y pwyntiau ar ei ran fel na fyddai’n cael ei erlyn.

Mae Pryce yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder rhwng 12 Mawrth 2003 a Mai 21 2003.

Cafodd y manylion eu datgelu yn 2011 ar ôl i briodas Huhne a Pryce chwalu ar ôl 26 mlynedd, pan gyfaddefodd iddo gael perthynas gyda Carina Trimingham.

Mae Huhne yn parhau yn AS y Democratiaid Rhyddfrydol yn Eastleigh ond credir y bydd yn rhoi’r gorau i’w sedd ar ôl pledio’n euog heddiw.