Ben Thompson
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth, ar ôl i ddyn 34 oed o Hwlffordd ddiflannu ddydd Sadwrn.
Cafodd Ben Thompson ei weld y tro diwethaf yng nghanol dinas Caerdydd lle’r oedd e wedi bod yn gwylio’r gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon.
Cafodd ei weld gan ei ffrindiau ger Mill Lane oddeutu 6.30pm.
Mae’r Heddlu’n parhau i chwilio yn ardal Treganna ar ôl iddo fe gael ei weld ar gamera cylch-cyfyng oddeutu 7.07pm ar y cyffordd rhwng Heol Lecwydd a Stryd Wellington.
Mae e’n 5’9” o daldra, a chanddo wallt brown byr a llygaid glas.
Roedd e’n gwisgo esgidiau brown, jîns glas, crys gwyn a glas a siaced werdd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Eddie Ough: “Rydym yn gynyddol bryderus am les Ben ac yn gwneud popeth gallwn ni er mwyn dod o hyd iddo’n ddiogel ac yn iach.”