Mae Esgob Lerpwl, a arweiniodd yr ymgyrch i ganfod y gwir am drychineb Hillsborough, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’i waith yn yr haf.

Fe fydd James Jones yn ymddeol ym mis Awst ar ei ben-blwydd yn 65 oed.

Roedd yn gadeirydd ar Banel Annibynnol Hillsborough, y panel a wthiodd am atebion ynghylch yr hyn ddigwyddodd yn y stadiwm pêl-droed yn Sheffield ym 1989.

Cyhoeddodd y panel adroddiad yn gynharach eleni yn dweud nad oedd y cefnogwyr ar fai am y trychineb, a bod yr heddlu wedi celu a newid ffeithiau yn eu hadroddiadau ac yn nhystiolaeth cefnogwyr.

Cafodd 96 o bobl eu gwasgu i farwolaeth yn ystod gêm Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Mae ymchwiliad i ymddygiad Heddlu De Swydd Efrog eisoes wedi dechrau.

Er ei fod yn ymddeol o’i waith fel Esgob, fe fydd yn parhau i gynghori’r Ysgrifennydd Cartref ar fater Hillsborough.

Mewn llythyr i’w esgobaeth, dywedodd James Jones: “Bu’n fraint, fel Esgob, gael gwasanaethu’r gymuned ehangach, nid lleiaf wrth gadeirio Panel Annibynnol Hillsborough.

“Mae’r Esgobaeth wedi cydnabod mai gwneud hyn yw’r peth iawn, sydd wedi rhoi cryn nerth i mi.

“Mae’r ffordd y mae’r teuluoedd a’r goroeswyr wedi derbyn adroddiad y panel a’r ffordd y mae’r gwirionedd yn agor y llwybr i gyfiawnder yn ategu gwerth gwaith y panel.”