Y safle nwy yn Algeria
Mae pedwerydd dyn o Brydain fu farw yn y gwarchae yn Algeria wedi cael ei enwi heddiw wrth i ymdrechion barhau i anfon cyrff y gwystlon gafodd eu lladd yn ôl adre.

Credir bod chwech o Brydeinwyr bellach wedi eu lladd yn yr ymosodiad gan filwriaethwyr ar safle nwy In Amenas.

Mae’r Swyddfa Dramor  wedi cyhoeddi datganiad gan deulu Sebastian John, 26, yn dweud ei fod yn “ŵr, tad, mab a brawd gwych” ac y bydd colled fawr ar ei ôl. Nid oes manylion ynglŷn â lle’r oedd yn byw. Roedd yn briod a chanddo fab saith mis oed.

Mae’n debyg bod 37 o weithwyr ar y safle wedi cael eu lladd yn yr ymosodiad.

Cafodd tua 29 o’r milwriaethwyr eu lladd, tra bod tri wedi cael eu dal gan filwyr Algeria yn ystod ymgyrch i ddod a’r gwarchae i ben.

Fe gyhoeddwyd enwau tri o’r Prydeinwyr gafodd eu lladd, sef Paul Morgan, 46, Garry Barlow, 49, o Lerpwl a Kenneth Whiteside, 59, o’r Alban.